Maniffesto Pŵer Pobl Ripple

Mae tirwedd ynni gwyrdd y DU yn newid. Mae angen newid ei berchnogaeth hefyd.

4 cam i roi pobl wrth galon chwyldro ynni gwyrdd y DU.

1) 20% o bŵer pobl fel safon

2) Atal perchnogion rhag talu ddwywaith am ynni gwyrdd

3) Dim treth ar arbedion biliau

4) Benthyciadau di-log fel bod perchnogaeth yn hygyrch i aelwydydd incwm is

Mae’n amser i roi pobl wrth galon trawsnewid y DU i system pŵer gwyrddach, glanach a rhatach. Dylai defnyddwyr sy’n camu i fyny ac yn berchen ar y cyd ar brosiectau ynni gwyrdd heb gymhorthdal allu cael y gwerth mwyaf o’u perchnogaeth.

Dylai pobl allu bod yn berchen ar eu ffynhonnell eu hunain o bŵer gwyrdd, cartref, cost isel am y term hir. Gall perchnogaeth amddiffyn yn erbyn prisiau ynni cynyddol, lleihau allyriadau cartref ac adeiladu annibyniaeth ynni. Mae rhaid i’r Llywodraeth nesaf datgloi’r potensial o berchnogaeth gyfunol, gymunedol a galluogi pawb i gymryd rhan. Ddylai asedau ynni gwyrdd y DU fod yn agored i berchnogaeth i bobl. Mae perchnogaeth gydweithredol o ffermydd gwynt ar raddfa fawr a pharciau solar yn datgloi pŵer pobl ac yn rhoi pobl wrth galon trawsnewid ynni gwyrdd y DU.

Mae’r Maniffesto Pŵer Pobl yn gosod allan pedwar polisi i ddemocrateiddio perchnogaeth ynni a rhoi pŵer yn ddwylo miliynau o bobl ar draws y DU.

20% o bŵer pobl fel safon
Ddylai 20% o ffermydd wynt a pharciau solar newydd i gyd fod ar gael i’w brynu gan gartrefi a defnyddwyr busnes. Mae angen system trydan sero carbon, cyflym yn y DU. Mae hyn yn gofyn am filoedd o dyrbinau gwynt newydd a channoedd o barciau solar.

Dylai perchnogaeth ar y cyd gan ddefnyddwyr cael eu pobi i mewn i bob prosiect ynni gwyrdd newydd, yn galluogi manteision i filiynau o gartrefi. Dylai pawb, boed yn byw yn agos i fferm wynt newydd neu barc solar, neu ymhellach i ffwrdd, cael y cyfle i berchen ar ran o seilwaith ynni newydd y DU ac elwa’n uniongyrchol.

Bydd pryniant ar gyfraddau masnachol llawn, yn union fel gwerthu rhan o brosiect i gronfa bensiwn. Gall perchnogion defnyddwyr wedyn elwa o’r pŵer gwyrdd, cost isel o’u prosiect. I alluogi trafodiad cyfiawn, dylai benthyciadau cost isel fod ar gael i bobl ar gyflogau isel i brynu eu cyfran o brosiectau newydd.

Atal perchnogion rhag talu ddwywaith am ynni gwyrdd

Ni ddylai defnyddwyr talu ardollau ynni gwyrdd ar drydan a dderbyniwyd o’u fferm wynt neu barc solar heb gymhorthdal. Mae cartref tebygol yn talu £140 pob blwyddyn ar gymorthdaliadau ynni gwyrdd, hyd yn oed os mae eu trydan i gyd yn dod o fferm wynt neu barc solar heb gymhorthdal.Mae angen eithriad ardoll i atal perchnogion defnyddwyr rhag talu ddwywaith am ynni gwyrdd.

Dylai perchnogaeth ar y cyd gan ddefnyddwyr cael eu pobi i mewn i bob prosiect ynni gwyrdd newydd, yn galluogi manteision i filiynau o gartrefi. Dylai pawb, boed yn byw yn agos i fferm wynt newydd neu barc solar, neu ymhellach i ffwrdd, cael y cyfle i berchen ar ran o seilwaith ynni newydd y DU ac elwa’n uniongyrchol.

Bydd pryniant ar gyfraddau masnachol llawn, yn union fel gwerthu rhan o brosiect i gronfa bensiwn. Gall perchnogion defnyddwyr wedyn elwa o’r pŵer gwyrdd, cost isel o’u prosiect. I alluogi trafodiad cyfiawn, dylai benthyciadau cost isel fod ar gael i bobl ar gyflogau isel i brynu eu cyfran o brosiectau newydd.

Dim treth ar arbedion biliau – dod yn unol â solar cartref

Mae’n wallgof trethu arbedion bil ynni rhai perchnogion. Gall berchen fferm wynt a pharciau solar lleihau biliau trydan perchnogion, yn union fel mae paneli solar yn gwneud. Gall arbedion biliau o berchen ased trydan gwyrdd oddi ar y safle fod yn agored i dreth, tra bod arbedion ac incwm o asedau solar cartref yn eithriedig.

Ddylai perchnogaeth fferm wynt neu barc solar dylid ei drin yr un fath â chael paneli solar ar eich tŷ. Dylid cyflwyno rhyddhad treth i sicrhau bod pobl yn medru cadw’r arbedion i gyd o drydan gwyrdd a gynhyrchir gan eu fferm wynt neu barc solar.

Benthyciadau di-log fel bod perchnogaeth yn hygyrch i aelwydydd incwm-is

Dylai benthyciadau di-log fod ar gael i alluogi aelwydydd incwm-is i brynu cyfran o fferm wynt neu barc solar. I alluogi trosiad gwyrdd cyfiawn a chynhwysol, mae’n bwysig bod y rhai ar incwm-is yn medru cyrchu perchnogaeth ynni gwyrdd.

Gellid casglu ad-daliad o’r benthyciadau yn y ffynhonnell, gan leihau’r risg o ddiffygdalu. Dylai benthyciadau llog-isel fod ar gael i bob cartref arall i gynyddu perchnogaeth defnyddwyr o ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.

Yr Adduned Pŵer Pobl

Rydym yn gofyn i ymgeiswyr seneddol i arwyddo’ Adduned Pŵer Pobl ac ymrwymo i helpu democrateiddio perchnogaeth ynni gwyrdd pan yn y Senedd. Rwyf yn ymrwymo i helpu datgloi Pŵer y Bobl pan yn y Senedd trwy

✓ Sicrhau bod 20% o brosiectau ynni gwyrdd newydd i gyd yn agored i berchnogaeth defnyddwyr

✓ Arbed defnyddwyr rag talu rhag talu ardollau am ynni gwyrdd

✓ Cyflwyno rhyddhad treth ar arbedion biliau trydan

✓ Cynnig benthyciadau di-log ar gyfer aelwydydd incwm is

UK businesses are under pressure to adopt green initiatives, aiming for net
The UK’s green energy revolution aims to democratize energy ownership, enabling collective
Scroll to Top

Discover more from Blog | Ripple Energy

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading